banner image

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Caerleon

Roedd Caerllion ar un adeg yn un o safleoedd milwrol pwysicaf Ynysoedd Prydain dan yr Ymerodraeth Rufeinig, ac yn gartref i’r Ail Leng Awgwstaidd

Ty Tredegar

Ynghanol parc prydferth 90 erw, mae Tŷ Tredegar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn un o’r enghreifftiau gorau o blasty o’r 17eg ganrif sydd i’w chanfod ym Mhrydain.

Bont Gludo

Yn un o chwech yn unig o bontydd trawsgludo ar draws y byd sy’n dal i weithio, mae Pont Gludo Casnewydd wedi bod yn rhan o nenlinell Casnewydd er 1906.

Llwybr Darganfod

O adroddiadau uniongyrchol am wrthryfeloedd gwleidyddol i ffilm o'r archif o orymdaith y carnifal, mae Archwilio Casnewydd yn cynnig ffordd newydd i chi ddysgu am Gasnewydd, ddoe a heddiw.

Amgueddfa ac Oriel Gelf

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi bod yn casglu tystiolaeth o hanes, diwylliant ac amgylchedd y ddinas ers 1888.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Gwlypdiroedd

Mae Gwlypdiroedd Casnewydd yn gynefin i amrywiaeth eang o adar sy’n defnyddio’r Warchodfa i gysgodi, i nythu ac i ddod o hyd i fwyd. Ewch am dro ar droed neu ar feic a galwch draw i’r ganolfan ymwelwyr i’r caffi, y siop a’r toiledau.

Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw

Eglwys Gadeiriol Casnewydd: Gwynllyw, Brenin a Chyffeswr. Mae Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw wedi bod yn fan addoli ers dechrau'r 6ed ganrif.

Canolfan y Pedwar Loc ar Ddeg

Mae Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg wedi'i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 loc, sef Lociau Cefn, sy'n un o ryfeddodau peirianegol cydnabyddedig y Chwyldro Diwydiannol, yn esgyn 160 troedfedd o fewn hanner milltir yn unig.

Lefelau Byw

Nod Partneriaeth Tirlun y Gwastadeddau Byw yw ailgysylltu pobl â threftadaeth, bywyd a harddwch gwyllt tirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent. Ewch i wefan Gwastadeddau Byw i ddarllen mwy ac i ddarganfod y digwyddiadau diweddaraf.

Llong Ganoloesol Casnewydd

Wedi’i darganfod ar lannau Afon Wysg yn 2002, mae’r gwaith cloddio wedi datgelu gwybodaeth gyffrous am le cafodd y llong ei hadeiladu, beth oedd yn ei chargo ac i ble yr hwyliodd hi. Mae Canolfan y Llong yn cynnal diwrnodau agored i ymwelwyr yn gyson.

Golff

Mae Casnewydd yn dod yn gyrchfan blaenllaw ar gyfer golff ac mae'n gartref i un o brif westai golff Ewrop, Gwesty'r Celtic Manor, lleoliad un o'r cystadlaethau Cwpan Ryder mwyaf cyffrous erioed yn 2010.

Beicio Casnewydd

Mae gan Gasnewydd lwybrau beicio gwych i’r teulu i gyd, o’r llwybr ar hyd y gamlas i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n mynd drwy’r ddinas

Cerdded Casnewydd

Ewch i’r awyr iach a dewch yn fwy ffit wrth archwilio Casnewydd a’r ardal o amgylch ar droed.

8de99e2b-79b2-4a6a-9c5f-771d61b5ba2c
13 entries - 1 pages