Cymraeg
English
Toggle navigation
Buddsoddi
Ymweld
Cwrdd
Gweledigaeth
Diwylliant
Cysylltu
Ffeindiwch Ni
Bywyd yng Nghasnewydd
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi
(pdf)
Bywyd yng Nghasnewydd
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn ar hyd arfordir y ddinas, gan fynd trwy Warchodfa Natur Gwlyptiroedd nodedig yr RSPB.
Mae Dyffryn Wysg, Dyffryn Gwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oll ar drothwy’r ddinas, gan gynnig harddwch naturiol syfrdanol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Mae mynediad hawdd i’r Arfordir Treftadaeth ac arfordir Gŵyr.
Mae rhwydwaith llwybrau beicio a throedffordd yn cysylltu canol y ddinas ac ardal ei pharc glan afon â chefn gwlad, yr arfordir a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Tai
Mae
prisiau tai
tua 78% y gost gyfartalog ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae cartrefi newydd wedi’u creu, gan gynnwys datblygiadau amgylcheddol arobryn a fflatiau glan afon moethus yn agos at ganol y ddinas.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu yng Nghasnewydd nag mewn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru (sy’n dangos yr hyder yng Nghasnewydd).
Bydd 3,500 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2023.
Chwaraeon a Hamdden
Agorwyd amwynder hirddisgwyliedig Friars Walk ym mis Tachwedd 2015, gan ddod â brandiau manwerthu a hamdden blaenllaw i ganol y ddinas.
Mae dros 30 cwrs golff yng Nghasnewydd a’r cyffiniau yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded sy’n cysylltu’r ddinas â Chaerllion a Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn cynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas gyda phwll nofio, campfa, canolfan tenis dan do a stadiwm pêl-droed ac athletau.
Dewch i gefnogi tîm rygbi Dreigiau Gwent Casnewydd, Clwb Pêl-droed Sir Gasnewydd a Chlwb Rygbi Casnewydd yn Rodney Parade a mwynhau perfformiadau theatr a dawns proffesiynol, arddangosfeydd, gweithdai a dosbarthiadau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon.
Mae chwaraewyr a hyfforddwyr pêl-droed gorau Cymru ynghyd â phobl ifanc frwd yn hogi eu sgiliau yn y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol.
Mae pencadlys Ballet Cymru yng Nghasnewydd. Mae’r stiwdio’n cynnwys un o’r ardaloedd dawnsio mwyaf yng Nghymru ac fe’i defnyddir yn rheolaidd gan Academi Frenhinol Dawnsio a Chymdeithas Bale Cecchetti.
Oherwydd enw da Casnewydd am gynnal digwyddiadau mawr, fe’i dewiswyd i gynnal Marathon gyntaf Cymru Casnewydd ABP yn 2018, daeth y British Lionhearts i Gasnewydd fel rhan o daith AIBA World Series of Boxing 2018 a chynhaliwyd y Gemau Trawsblaniadau Prydain yng Nghasnewydd ym mis Gorffennaf 2019.
Addysg
Mae gan Gasnewydd 2 ysgol feithrin, 44 ysgol gynradd, 9 ysgol uwchradd, 2 ysgol arbennig ac 1 uned cyfeirio disgyblion.
Mae Coleg Gwent yn un o golegau addysg bellach Cymru sydd â’r perfformiad gorau gyda champws yng Nghasnewydd sy’n cynnig cymwysterau galwedigaethol a phrif ffrwd.
Mae gan Gasnewydd gampws prifysgol arobryn yng nghanol ddinas - sy’n rhan o Brifysgol De Cymru.
Mae prifysgolion uchel eu parch eraill o fewn 30 milltir i Gasnewydd, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.