Banner image

Ffeindiwch Ni

Invest_SQUARE_001_LR

Casnewydd – dinas gysylltiedig 

Mae Casnewydd mewn lleoliad da â rhwydwaith heol, rheilffordd, môr ac awyr gwych yn ei wasanaethu. Mae hyn yn golygu ei fod yn lleoliad busnes a buddsoddi delfrydol, ac yn lle gwych i ymweld ag e. 

Car: yn teithio o’r gorllewin, daw’r M4 â chi i galon Casnewydd dros ddwy bont heb dollau’n croesi’r Hafren. 

Bws: Mae’r orsaf fysus yng nghanol y ddinas gyda chysylltiadau hawdd â bysus a thacsis lleol i fynd â chi i’ch cyrchfan. 

Trên: Mae gan brif linell reilffordd Casnewydd wasanaethau uniongyrchol o Lundain, Birmingham a Manceinion. 

Awyren:  Mae meysydd awyr Caerdydd a Bryste ill dau o fewn awr o daith car i Gasnewydd ac mae gwasanaethau bws uniongyrchol rhwng Casnewydd a meysydd awyr Heathrow Llundain a Gatwick Llundain. 

Invest_SQUARE_003_LR