“A ninnau’n ddatblygwyr yn Ne Cymru, roedden ni’n awyddus i weithio yng Nghasnewydd gan ein bod yn teimlo ei bod yn ddinas ar gynnydd. Rydym wedi cael croeso cynnes gan Gyngor Dinas Casnewydd sydd wedi bod yn gefnogol ac sy’n awyddus i hwyluso’r gwaith parhaus i adfywio canol y ddinas.
Roedd y cyfle i gaffael tirnod eiconig Tŵr y Siartwyr, sef yr adeilad uchaf yng Nghasnewydd, yn gyfle gwych a bydd gwedd drawiadol i’n hailddatblygiad uchelgeisiol a fydd yn cynnwys swyddfeydd ac unedau manwerthu o’r radd flaenaf yn ogystal â’r gwesty 154 gwely”
“Wrth wraidd ein penderfyniad i addasu hen swyddfeydd dosbarthu Swyddfa'r Post yn fân swyddfeydd 54,000 tr. sg. mae ein cred ffyddiog y bydd y galw yn tyfu ymhellach wrth i Gyngor Dinas Casnewydd fwrw ymlaen gyda’i uwch-gynllun i ailddatblygu’r ddinas.
Rydym yn hyderus y bydd trydaneiddio’r rheilffordd i Lundain, ar y cyd â dileu tollau Pont Hafren, yn gwneud Casnewydd yn ddinas gystadleuol i fyw, gweithio a chwarae ynddi.”
Andrew Innes, Garrison Barclay Estates
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Garrison Barclay