17th April 2023
Mae pont teithio llesol newydd sy'n cysylltu canol y ddinas â Devon Place wedi cael ei hagor yn swyddogol i'r cyhoedd yng ngorsaf reilffordd Casnewydd.
Cafodd y bont ei hagor y bore yma gan y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Cynghorydd Martyn Kellaway, Maer Casnewydd, a Lee Waters AS, dirprwy weinidog newid hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Mae'r bont newydd yn disodli'r hen isffordd, gan ddarparu llwybr cysylltu mwy diogel a hygyrch i drigolion ac ymwelwyr ar draws y brif reilffordd.
Mae’r bont wedi’i hadeiladu i safonau teithio llesol, gan alluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn, beicwyr a cherddwyr i’w defnyddio’n hawdd. Mae wedi'i hariannu trwy gronfa teithio llesol Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwell palmentydd o amgylch yr orsaf drafnidiaeth ac yn ymgorffori nodweddion draenio cynaliadwy sy'n dal dŵr glaw a'i ddargyfeirio i'r blychau plannu sydd newydd eu gosod.
Dyma'r darn diweddaraf o seilwaith teithio llesol sydd i'w gwblhau yng Nghasnewydd, yn dilyn gwaith i adnewyddu llwybrau teithio llesol yng Nghoed Melyn, Parc Tredegar a Bryngaer Croes Trelech.
Wrth siarad cyn seremoni agor y bore yma, dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Mae'r bont newydd yn mynd i fod yn ddarn gwych o seilwaith i'n trigolion ac i ymwelwyr â'n dinas.
"Roedd ein trigolion wedi ei gwneud hi'n glir i ni fod cysylltiad mwy diogel a hygyrch rhwng Devon Place a Queensway a chanol y ddinas yn bwysig iddyn nhw. Mae'r bont newydd yn darparu'r cysylltiad hwnnw.
"Trwy ei gwneud hi'n haws i bobl ddewis opsiynau teithio llesol wrth deithio i ganol y ddinas ac oddi yno, rydyn ni'n helpu i adeiladu Casnewydd sy’n fwy gwyrdd ac iach i bawb.
"Mae'r bont hefyd yn gam arall tuag at wireddu ein cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y ddinas. Wedi cwblhau nifer o brosiectau allweddol gan gynnwys adnewyddu arcêd hanesyddol y Farchnad a'r farchnad dan do, mae gwaith i adnewyddu hen adeilad didoli'r Swyddfa Bost ar Mill Street ar y gweill a bydd yn darparu gofod masnachol hyblyg sydd wedi dod yn fwy hygyrch fyth o ganlyniad i'r bont newydd."
Dywedodd Lee Waters, y dirprwy weinidog newid hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:
"Rydyn ni eisiau annog mwy o bobl i wneud teithiau lleol ar feic ac ar droed, ac mae ei gwneud hi’n haws i deithio'n llesol yn allweddol i hynny.
"Mae'n wych gweld y bont hon ar agor o'r diwedd, bydd yn agor llwybr mynediad newydd ar draws y ddinas ac yn ei gwneud hi'n fwy cyfleus i gerdded a beicio o amgylch Casnewydd".
Dywedodd Miriam Wright, noddwr Network Rail: “Mae wedi bod yn fraint wirioneddol cael bod yn rhyngwyneb rhwng Network Rail a Chyngor Dinas Casnewydd ar gyfer cynllun sydd wedi sicrhau buddion mor sylweddol i bobl Casnewydd.
“Rydym wedi sicrhau bod y rheilffordd yn rhedeg yn ddiogel ac wedi cadw teithiau di-dor i’n teithwyr i gyd wrth weithio gyda’r cyngor i gyflawni prosiect mor wych.
Rydym bellach wedi llwyddo i drosglwyddo o isffordd hen ffasiwn i bont fodern, sydd nid yn unig yn llwybr hygyrch ar draws y rheilffordd, ond sydd hefyd yn hyrwyddo teithio llesol, yn creu profiad gwell i deithwyr yng ngorsaf Casnewydd ac a fydd yn uno’r ardaloedd. bob ochr i'r trac mewn ffordd llawer mwy effeithiol.
“Mae’r cyngor wedi bod yn wych i weithio gyda nhw ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda nhw eto mor gydweithredol mewn unrhyw brosiectau yn y dyfodol.”
"Mae darparu'r bont wedi bod yn brosiect cymhleth, gyda nifer o heriau i'w goresgyn gan gynnwys gweithio dros reilffordd wedi'i thrydaneiddio, gweithio o dan yr orsaf ac yn yr hen isffordd.
Cafodd yr heriau hyn eu goresgyn trwy ymdrechion ar y cyd sawl parti. Y Cyngor a arweiniodd y prosiect mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Network Rail. Cafodd tîm y Cyngor ei gefnogi gan Arup, Grimshaw a Corderoy gyda gwaith dylunio a rheoli’r prosiect.
Alun Griffiths Ltd oedd y prif gontractwyr, Cass Hayward a arweiniodd y gwaith o ddylunio’r bont, a Pro Steel o Bont-y-pŵl a wnaeth y gwaith saernïo a gosod.