Mae'r Nadolig rownd y gornel, sy'n golygu y bydd pobl yn prynu anrhegion i anwyliaid.
Er bod y rhyngrwyd wedi newid byd manwerthu, mae'n bosibl y bydd nifer eisiau cefnogi busnesau lleol dros yr ŵyl - gyda nifer o siopau yng Nghasnewydd a thu hwnt yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol.
Mae llawer o fusnesau annibynnol yng nghanol dinas Casnewydd - yn cynnwys Arcêd y Farchnad (sydd wedi bod yn cael ailddatblygiad uchelgeisiol dros y blynyddoedd diwethaf) ac Arcêd Casnewydd.
Er mwyn cael seibiant o'n gohebydd ffordd o fyw yn canu caneuon Nadolig (ym mis Hydref), anfonwyd hi i siarad â masnachwyr yn y ddwy arcêd am bwysigrwydd siopa'n lleol.
Mae Arcêd y Farchnad - a adeiladwyd ym 1869 - wedi bod yn rhan o brosiect adfer uchelgeisiol gan ddefnyddio arian Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Er bod rhai busnesau wedi gadael Arcêd y Farchnad neu wedi symud i rywle arall yn y ddinas (gan gynnwys Arcêd Casnewydd), mae [barbwr] Claudio a Lucky Seven Tattoo Kev wedi aros yn ffyddlon i'r arcêd tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Bydd yr artist Justin Brown yn gweithredu rhywle arall dros gyfnod y Nadolig wrth i waith adfer pellach gael ei drefnu yn yr arcêd yn ystod mis Tachwedd.
Roedd Justin Brown gynt yn artist persbectif i benseiri yng Nghasnewydd a Chaerdydd ond cafodd ei ddiswyddo yn 2019 pan aeth ei gyflogwr yn fethdalwr. Erbyn hyn mae'n gwerthu ei luniau o bensaernïaeth yng Nghasnewydd - fel printiau, mewn fframiau, a hyd yn oed mewn llyfrau.
"Mae'r Nadolig yn bwysig felly bydd gen i siop yn The Port yn Friars Walk," esboniodd yr artist sydd wedi byw yng Nghasnewydd ers 1969.
"Rydw i wedi bod yn braslunio ac yn paentio ar hyd fy oes, ond mae'r rhan fwyaf o'm printiau o'r ddwy flynedd diwethaf."
Bydd The Port yn gartref i nifer o fasnachwyr annibynnol dros dymor y Nadolig - wedi'i leoli yn Friars Walk bydd yn ailagor rhwng Tachwedd 23 a Rhagfyr 23. Bydd mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Pan fydd The Port yn ailagor ym mis Tachwedd bydd modd i bobl gefnogi Mr Brown a masnachwyr lleol eraill.
"Yn gyffredinol, dylai pobl siopa'n lleol oherwydd mae'n dda cefnogi'r rhai sy'n agos atoch chi," meddai Mr Brown.
"Mae pethau o bell ac agos yn aml yn gorfforaethol.
"Yng Nghasnewydd mae'n bwysig siopa'n lleol achos mae pobl angen y busnes ac mae'n mynd yn fwy anodd."
Ychwanegodd bod ei waith yn canolbwyntio ar Gasnewydd felly mae'n "annhebygol o werthu y tu allan i'r ddinas" ac - er bod ganddo bresenoldeb ar-lein - mae pobl "yn fwy parod" i brynu’r gwaith celf pan maen nhw'n ei weld mewn bywyd go iawn.
Er bod Arcêd y Farchnad ychydig yn dawel tra bod gwaith adfer yn parhau, mae Arcêd Casnewydd wedi dod yn ganolbwynt i fasnachwyr annibynnol sy'n cynnig amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau.
Mae gan yr arcêd Fictoraidd ddigonedd o lefydd i gael anrhegion anarferol (ynghyd â’r Pot Café a Thŷ Coffi Arcadia os ydych chi eisiau paned neu rywbeth i'w fwyta).
I’r rhai sy’n hoff o gerddoriaeth mae Kriminal Records. Mae'r siop recordiau wedi ei sefydlu yng Nghasnewydd ers degawdau lawer - roedd wedi'i lleoli yn Arcêd y Farchnad a chyn hynny ym Marchnad Casnewydd.
Dean Beddis sy'n berchen ar Kriminal Records ac mae'n gefnogwr brwd o siopa’n lleol.
"Mae siopa'n lleol yn cefnogi pobl dosbarth gweithiol cyffredin lleol," meddai Mr Beddis.
"Mae'r arian sy'n cael ei wario mewn busnes annibynnol yn mynd i bocedi pobl i gefnogi eu teuluoedd ac yn cael ei wario yn yr economi leol.
"Does gan gwmnïau annibynnol ddim cyfranddalwyr na chynlluniau dianc."
Ychwanegodd bod siopau lleol yn aml yn cynnig mwy o unigoliaeth na chorfforaethau - gan ychwanegu eu bod hefyd yn cynnig "cynhesrwydd a chymuned" gyda nifer o bobl yn dod i mewn am sgwrs neu am wybodaeth leol fel gigs sydd ar ddod, argymhellion am dafarndai, a mwy.
"Rydyn ni'n rhwydwaith annibynnol sy'n gofalu am ein gilydd oherwydd ein bod yn poeni," parhaodd Mr Beddis.
"Pan fyddwn yn gwenu ac yn dweud, 'mwynhewch eich diwrnod' rydyn ni’n meddwl hynny - dydych chi ddim yn mynd i archfarchnadoedd mawr i gael sgwrs."
Uned arall sydd wedi'i lleoli yn yr arcêd hanesyddol yw Newport Arcade Collective sy'n gartref i "gasgliad" o fusnesau bach annibynnol yn cynnwys Sharon McKinley Designs, Chupacabra Taxidermy, ac Arcadia.
Mae'r siop yn llawn dop o anrhegion rhyfedd a rhyfeddol yn cynnwys crisialau, planhigion, tacsidermi, gemwaith, hen bethau a mwy.
Dywedodd Elliott Pulman, o Chupacabra Taxidermy: "Mae'n bwysig cefnogi ein gilydd a phan fyddwch yn siopa'n lleol mae'r arian yn mynd yn ôl i'r economi leol, sy'n dda i'r gymuned.
"Rydym yn hapus iawn i fod yma - roedden ni yn The Port oedd yn gyfle da a nawr [yn Arcêd Casnewydd] mae gennym ni gartref bach neis llawn busnesau annibynnol."
Siop anrhegion wych arall yn Arcêd Casnewydd yw Heart of the Home - cafodd ei hagor yn 2019 gan Lesley Skiffington ac mae'n gwerthu amrywiaeth o offer coginio, nwyddau cartref ac anrhegion.
Pan ofynnwyd iddi pam y dylai pobl siopa'n lleol, atebodd: "Mae'n helpu i gadw busnesau pobl i fynd."
Ychwanegodd bod Arcêd Casnewydd yn "fwrlwm" yn ystod Gŵyl Fwyd Casnewydd [2023], gan awgrymu y gallai cynnal mwy o ddigwyddiadau fel yna roi hwb pellach i ganol y ddinas.
Mae siopau eraill yn Arcêd Casnewydd yn cynnwys Freestyle gyda digon o offer sglefrio a siop blanhigion Nettle & Bark – er bydd yr olaf yn symud i Barc Beechwood cyn bo hir.
Gall pobl hefyd gefnogi busnesau annibynnol ym Marchnad Casnewydd y Nadolig hwn - mae unedau manwerthu sydd yn y farchnad ar hyn o bryd yn cynnwys:
- City Treasures (Past Times yn flaenorol)
- Pure Pets (siop eitemau anifeiliaid anwes)
- Dorothy Seed (blodau)
- Sugar (siop felysion)
- Friendly Neighbourhood Comics (siop gomics)
- Kash Crafts (ategolion Kashmiri Masnach Deg moesegol, eitemau, gemwaith, ac ati)
- Newport Trading Cards (cardiau masnachu ac ategolion)
- Fotosandra Photography (ffotograffiaeth teulu a thirwedd)
Mae digon o opsiynau bwyd ym Marchnad Casnewydd hefyd i'r rhai sy'n gobeithio gwneud diwrnod ohoni.
Mae'r nodwedd hon yn canolbwyntio ar fasnachwyr annibynnol sydd wedi'u lleoli yn Arcêd Casnewydd ac Arcêd y Farchnad. Byddwn yn cynnwys masnachwyr lleol mewn rhannau eraill o'r ddinas yn y dyfodol.
Cyfeiriad: - South Wales Argus 29 Hydref 2023