Yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau M&IT yn Evolution Llundain, un o seremonïau gwobrwyo mwyaf diwydiant digwyddiadau busnes y DU, enillodd Gwesty’r Celtic Manor ac ICC Cymru dair gwobr fawreddog rhyngddynt.
Cafodd Gwesty’r Celtic Manor Casnewydd, sy'n rhan o'r Celtic Collection, ei goroni'n Westy Gorau'r DU am y degfed tro, gan sicrhau'r wobr aur a chwenychir o flaen Gwesty Carden Park a Park Regis Birmingham.
Mae Gwesty'r Celtic Manor yn lleoliad unigryw ar gyfer cynnal cynadleddau a digwyddiadau. Gall canolfan gynadledda’r gwesty eistedd 1,500 o gynadleddwyr ar gyfer darlith bwysig neu 900 o westeion mewn cinio gala yn Ystafell Caernarfon, a gall ystod eang o gyfleusterau amlbwrpas a gweithgareddau meithrin tîm ddarparu ar gyfer pob math o ddigwyddiadau.
Wrth sôn am y fuddugoliaeth dywedodd Rachel Phillips, Cyfarwyddwr Gwerthiant The Celtic Collection:
"Mae'r tîm yng Ngwesty'r Celtic Manor yn mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n gwesteion yn ystod eu harhosiad, felly mae'r ffaith bod ein cyfoedion yn y diwydiant yn cydnabod hyn yn dyst i'w holl waith caled. Rwy'n hynod falch o ddod ag aur yn ôl i'r gwesty unwaith eto."
Yn ogystal ag aur i Westy’r Celtic Manor, sicrhaodd ICC Cymru, y ganolfan gynadledda â lle i 5,000 o bobl yng Nghasnewydd, ddwy wobr arian yng nghategori Canolfan Gynadledda Orau'r DU a'r categori Effaith Gadarnhaol/Etifeddiaeth Digwyddiadau Orau am ei gwaith helaeth ar addysgu'r sector ar Gyfraith Martyn.
Dywedodd Ian Edwards, Prif Swyddog Gweithredol y Celtic Collection ac ICC Cymru:
"Mae'r timau lleoliad a’r gwesty yn gweithio'n galed iawn bob dydd i roi profiad gwirioneddol eithriadol i westeion yn ystod eu hamser gyda ni ac i ysbrydoli ac addysgu'r sector ar faterion pwysig. Mae dod â gwobr aur a dwy wobr arian yn ôl i Gymru yn gymeradwyaeth wych i bopeth a wnawn, ac yn gyflawniad y gall ein tîm anhygoel ymfalchïo ynddo".
Cyfeiriad: -Business News Wales 22 Medi 2023