Mae Casnewydd yn gymysgedd o amgylcheddau trefol a gwledig gan gynnwys parciau hardd, mannau agored a chefn gwlad bendigedig sy'n amgylchynu'r ddinas.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr holl fanteision a ddarperir gan blanhigion, anifeiliaid, micro-organebau a'r mannau lle maent yn byw ac yn anelu at wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru.
Fel awdurdod lleol, mae gan Gyngor Dinas Casnewydd ddyletswydd i weithredu'n gynaliadwy ac arwain drwy esiampl o ran diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol.
Dyma rai o'r mentrau i helpu Casnewydd ddod yn ddinas fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar.
Rheoli gwair mewn ffordd sy'n Caru Gwenyn
Mae dros 25 erw yng Nghasnewydd yn cael eu rheoli fel safleoedd peillio i ddenu gwenyn, gloÿnnod byw, chwilod a phryfed eraill. Fel Dinas sy'n Caru Gwenyn, rydyn ni’n adolygu trefniadau rheoli porfa a lladd gwair Casnewydd. Er y bydd llawer o'n lleiniau ymyl ffordd, ein cyffyrdd a'n cylchfannau yn parhau i gael eu torri er diogelwch ar y ffordd a mynediad i gerddwyr, rydyn ni wedi newid y trefniadau torri gwair, lleiniau ymyl ffordd a gwrychoedd mewn ardaloedd dethol.
Peillwyr Casnewydd
Mae nifer o safleoedd yng Nghasnewydd yn cael eu rheoli er budd pryfed peillio, yn arddangosfeydd blodau ar gylchfannau ac yn ddolydd mawr. Ein nod yw addasu trefniadau torri ardaloedd dethol o laswelltir ar draws Casnewydd er mwyn annog blodau gwyllt brodorol i ffynnu. Bydd hyn yn cynnwys dolydd, lleiniau ymyl ffordd a safleoedd amrywiol ledled y fwrdeistref fel mynwentydd a pharciau.
Bydd safleoedd allweddol ar gyfer gwell rheolaeth yn cynnwys amryw leiniau ymyl ffordd, glaswelltiroedd yng Nghronfa Natur Leol Allt-yr-yn, Gwarchodfa Natur Leol San Sulien, Parc Glan yr Afon, Wentwood Meadow, Tŷ-du, Dyffryn a Mynwent Sant Gwynllyw
Project y Gardwenynen
Gweithio gyda'r Project Gwastadeddau Byw a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, mae ardaloedd o laswelltir yn Ffos ddraenio Percoed a'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu rheoli ar gyfer cacwn.
Yn dilyn dulliau traddodiadol o reoli gweirglodd, bydd y glaswellt yn cael ei dorri a'i gasglu bob hydref er mwyn cynnal ffrwythlondeb pridd isel ac amrywiaeth o ran rhywogaethau a chreu cynefin perffaith i bryfed peillio.
Dim ond mewn chwe lleoliad yng ngwledydd Prydain y gellir dod o hyd i’r Gardwenynen ac mae Gwastadeddau Gwent yn fan poblogaidd ar gyfer y rhywogaeth.
Barrack Hill
Mae Barrack Hill yn Safle o Bwysigrwydd mewn Cadwraeth Natur (SoBCN), sydd wedi'i ddynodi ar gyfer ei mosaig mawr o laswelltir naturiol gwlyb a sych wedi'i led-wella, prysgwydd, rhedyn a choetir. Bydd y project yn gwella gallu'r ardal i gefnogi adferiad natur drwy reoli cadwraeth, cyfathrebu ac ymgysylltu'n well â thrigolion lleol.
Treialu ardaloedd 'gadael i dyfu'
Chwiliwch am rai o safleoedd ‘gadel i dyfu’ peilot Casnewydd wrth i chi deithio o gwmpas, gan gynnwys ar yr A48 ym Machen, Sterndale Bennett Road, Pencarn Way, Ruskin Way ac Oystermouth Way.
Safleoedd gwarchodedig
Mae Casnewydd hefyd yn gartref i nifer o safleoedd gwarchodedig ac ardaloedd cadwraeth ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig dynodedig rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) - mae'r rhain yn safleoedd dynodedig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau'r CE. Gyda'i gilydd, mae ACAau ac AGA (gweler isod) yn ffurfio rhwydwaith o safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd a elwir yn Natura 2000. Diogelir ACA drwy eu dynodiad fel SODdGAau
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) - mae gan y safleoedd hyn rywogaethau mudol sy'n ymddangos yn rheolaidd a/neu rai rhywogaethau prin neu agored i niwed.
Safleoedd Ramsar - mae'r rhain wedi'u dynodi o dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol, yn enwedig fel Cynefin Adar Dŵr (Confensiwn Ramsar).
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SODdGAau) - hysbysir y rhain o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Fe'u nodweddir fel enghreifftiau o’r safleoedd gorau o ran cynefinoedd bywyd gwyllt, nodweddion daearegol a thirffurfiau. Mae 11 SODdGA yn cwmpasu amrywiaeth o gynefinoedd yng Nghasnewydd gan gynnwys:
- Afon Wysg (Wysg Isaf)
- Aber Afon Hafren
- Mae Gwastadeddau Gwent yn chwe SODdGA cyffiniol ar wahân (4,500ha) sy'n cynnwys
- SODdGA Tredelerch a Llanbedr Gwynllŵg (rhan ddwyreiniol yn unig)
- SODdGA Saint-y-brid
- SODdGA Trefonnen ac Allteuryn
- SODdGA Whitson
- SODdGA Redwick a Llandyfynyw (pob un ac eithrio'r rhan fwyaf de-ddwyreiniol)
- SODdGA Magwyr a Gwndy (mae hyn yn gyfagos i'r olaf, ond mae'n syrthio y tu allan i ffin CDC)
- Coed Penhŵ
- Coed Parc Seymour
- Dolydd Llangston-Llanfarthin
- Coed Plas Machen
Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) - mae hwn yn ardal o werth cadwraeth natur uchel, wedi'i reoli i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil neu i ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion a nodweddion daearegol neu dopograffeg sydd o ddiddordeb arbennig.
Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SBCN) - mae'r rhain yn safleoedd sydd â bywyd gwyllt sy'n bwysig yn lleol yn hytrach nag yn rhyngwladol neu'n genedlaethol. Cyfeirir atynt yn aml fel 'safleoedd ail haen' neu 'safleoedd bywyd gwyllt'. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi nodi nifer o SBCNau Ceir rhagor o fanylion yn y 'Strategaeth Cadwraeth Natur Ddrafft ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd'.
Gwarchodfa Natur Leol (GNL) - mae'r rhain yn werthfawr ar gyfer cadwraeth natur, bywyd gwyllt lleol, a/neu ddiddordeb daearegol. Maent yn aml wedi'u lleoli mewn ardaloedd poblog ac yn darparu adnoddau hamdden ac addysgol rhagorol. Mae un safle o'r fath wedi'i ddynodi yn Allt-yr-Yn ac mae eraill yn cael eu hystyried.
Gwarchodfeydd Natur Anstatudol - nid oes gan y safleoedd hyn statws ffurfiol yn y system gynllunio leol, er y byddai unrhyw werth cadwraeth natur fel arfer yn cael ei ystyried gan yr awdurdod lleol wrth benderfynu ar unrhyw ddatblygiadau a allai fod yn niweidiol ar neu ger y safle. Mae enghreifftiau yng Nghasnewydd yn cynnwys:
- Gwarchodfa Coed Cadw yng Nghraig y Wenallt
- Gwarchodfa Natur Ysgol Gyfun Caerllion, Lôn Coldbath, Caerllion
- Allt-yr-Yn (GNL hefyd)
- Coed Ringland
- Oaklands
- Pwll Dyffryn
- Coed Llety
Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd - Crewyd Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd fel iawndal am golli cynefin a achoswyd gan adeiladu'r morglawdd ym Mae Caerdydd. Crëwyd gwelyau cyrs, glaswelltir gwlyb isel, lagwnau halwynog, a morfa heli dros 438.6 ha rhwng aber Afon Wysg ac Allteuryn.