Roedd Caerllion ar un adeg yn un o safleoedd milwrol pwysicaf Ynysoedd Prydain dan yr Ymerodraeth Rufeinig, ac yn gartref i’r Ail Leng Awgwstaidd.
Mae Caerllion yn dref hanesyddol atyniadol ar gyrion Casnewydd lle gallwch weld yr amffitheatr Rufeinig, y baddondai a’r barics, ac ymlacio yn un o’r nifer o dafarndai, tai bwyta a thai te sydd yno.
Mae’n rhan o lwybr beicio cenedlaethol 88 sy’n dilyn yr afon rhwng Caerllion a Chasnewydd.