Mae pedwar Llwybr Beicio Cenedlaethol yn mynd drwy Gasnewydd:
- Mae Llwybr 4 a Llwybr 47 yn rhan o’r Llwybr Celtaidd
- Mae Llwybr 46 yn rhan o Lwybr Blaenau'r Cymoedd ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog
- Llwybr 88 yw’r un o ganol dinas Casnewydd i Gaerllion, ar lan afon ac yn wastad ar y cyfan, gan gysylltu canol Casnewydd gyda Malpas, Caerllion a’r wlad o amgylch.
Dyma fap beicio rhyngweithiol o dde ddwyrain Cymru gyda gwybodaeth am leoedd i ymweld â nhw ag aros ynddynt.
Mae llwybr beicio yn cysylltu Casnewydd a Chaerdydd - mae’n llwybr oddi ar y ffordd yn rhannol ac yn cysylltu’n uniongyrchol â Thŷ Tredegar a Llwybr Arfordir Cymru.
Lawrlwythwch fap llwybr beicio Casnewydd-Caerdydd
Ewch i Beicio Casnewydd Cyced am ragor o lwybrau beicio lleol, cefnogaeth i glybiau ac adnoddau.
Llwybrau beicio yn Ne Ddwyrain Cymru
Taflen llwybrau beicio treftadaeth (pdf)
Taflen llwybrau beicio i deuluoedd (pdf)
Taflen parciau beic a llwybrau MTB (pdf)
Taflen llwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd (pdf)
Llogi beic
Llogwch feiciau a helmedau i oedolion a phlant gan Feiciau Dinas Casnewydd, sydd a’u canolfan yn Nhŷ Tredegar.
Cewch gyngor am y llwybrau gorau i chi ac fe wnân nhw gludo beiciau i’ch llety.
Ffoniwch 07538 721922 am fanylion neu i archebu.
Beicio Trac
Rhowch gynnig ar feicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.
Cynlluniwch o flaen llaw ac archebwch drwy ffonio (01633) 656757