Mae nifer o lwybrau cerdded yng Nghasnewydd i bobl o bob lefel o ffitrwydd a gallu.
I gerddwyr profiadol, mae llwybrau cerdded hir gan gynnwys Llwybr Dyffryn Wysg sy’n 48 milltir o hyd, a Llwybr Cwm Sirhywi sy’n 27 milltir o hyd.
Mae 23 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy Gasnewydd ac mae’n llwybr amrywiol iawn, o warchodfa natur i lan yr afon ynghanol y ddinas - pa ddarn fyddwch chi’n ei ddewis?
Lawrlwythwch ganllaw i Lwybr Arfordir Cymru (pdf).
Ewch i Wefan Llwybr Arfordir Cymru am ragor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau i’w lawrlwytho.
Mae croeso i gŵn ond rhaid iddynt fod ar dennyn.
Llwybr Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr
Agorodd Llwybr Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr ym Mai 2012 fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Mae llethrau, camfeydd, grisiau a thri anwastad ar hyd y llwybr 8 cilomedr.
Mae modd parcio ar hyd Stephenson Street neu ym maes parcio Gwlypdiroedd Casnewydd.
Taith Gylchol y Bont Haearn
Lawrlwythwch ac argraffwch daflen Llwybr Cylchol y Bont Haearn (pdf) am lwybr y gallwch ei ddilyn eich hunan yn ardal drawiadol Draethen, Castell Rhiw’r-Perrai a Machen.
Llwybrau Beicio
Mae nifer o lwybrau beicio Casnewydd hefyd yn wych ar gyfer cerddwyr ac yn mynd drwy ardaloedd gwledig a dinesig.
Llwybrau yn y wlad
Datblygwyd y llwybrau hyn ag arwyddion gan staff y cyngor ac maen nhw’n cynnwys rhai camfeydd, llethrau mwy serth a thir anwastad.
Argymhellir i chi wisgo esgidiau cadarn neu fŵts cerdded a’ch bod yn cario potel o ddŵr a ffôn symudol.
Lawrlwythwch y Ffolder llwybrau gwledig (pdf) a’r Taflenni llwybrau gwledig (pdf).
Lawrlwythwch gyfres Cerddwn yng Nghasnewydd:
Llwybrau Byrion i Draed Bychain (pdf)
Llwybrau i Ddechreuwyr (pdf)
Llwybrau Her i'r Iechyd (pdf)
Ramblers De Gwent
Mae’r grŵp cerdded lleol hwn yn trefnu teithiau cerdded wedi’u tywys, o deithiau hawdd hamddenol i ddiwrnod yn y bryniau.
Mae ‘na deithiau bob dydd Sul o’r flwyddyn ac yn ystod yr wythnos gyda’r nos yn yr haf.
Ewch i wefan Ramblers De Gwent.