banner image

Hanes

Casnewydd a rhanbarth Gwent

Gall Casnewydd a rhanbarth Gwent frolio hanes cyfoethog a llu o drysorau.

Mae ein pont gludo yn un o ddim ond chwe phont weithredol yn y byd erbyn hyn, roeddem yn gartref i un o'r safleoedd milwrol pwysicaf ym Mhrydain o dan yr Ymerodraeth Rufeinig a chanfuwyd olion llong ganoloesol yng nglannau Afon Wysg sy'n llifo drwy ganol y ddinas. 

O'n cwmpas mae'r castell mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yn y DU; Safle Treftadaeth y Byd sy'n dyst i'r grymoedd deinamig a sbardunodd y Chwyldro Diwydiannol; Parc Cenedlaethol, ynghyd ag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol; a rhwydwaith camlesi helaeth - pob un yn gwella'r cynnig i ymwelwyr ac yn cyfrannu at les ein cymunedau. 

Hanes

Mae lleoliad Casnewydd ar aber Afon Wysg wedi denu ymwelwyr ers y sefydlwyr Celtaidd cyntaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Caerllion oedd y safle a ddewiswyd ar gyfer caer lleng Rufeinig strategol o ran olaf y ganrif gyntaf OC a setlodd y Normaniaid yn y dref hefyd ac adeiladu castell yn y 12fed ganrif, y gellir gweld ei olion heddiw o hyd.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif, tyfodd Casnewydd ac ehangu’n gyflym o fod yn dref porthladd fechan i fod yn un o’r lleoedd pwysicaf yn y wlad o ran allforio glo a chynhyrchu dur. Daeth y dref yn adnabyddus am ei dociau modern hygyrch, lle'r oedd masnach yn ffynnu ac ychwanegwyd estyniadau pellach at enw da Casnewydd – ym 1914 fe wnaeth Casnewydd gludo dros chwe miliwn tunnell o lo.

Daeth ein masnachu â'r byd â sefydlwyr newydd a ymgartrefodd ym Mhillgwenlli yng nghysgod ein dociau.  Daeth pobl newydd ag amrywiaeth ac rydym bellach yn dathlu ein cymunedau bywiog.

Un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol Casnewydd oedd Gwrthryfel y Siartwyr ym 1839. Roedd y gofynion a wnaed gan y Siartwyr, a ymgorfforwyd yn ddiweddarach yn Natganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o Hawliau Dynol yn 1948, yn cynnwys pleidlais i bob dyn dros 21 oed, pleidleisiau cyfrinachol, cyflogau Aelodau Seneddol a diddymu'r cymwysterau eiddo ar gyfer ASau. 

Treftadaeth

Wedi'i osod mewn parc 90 erw hardd, Tŷ Tredegar yw un o'r enghreifftiau gorau o blasty cyfnod Siarl II o'r 17eg ganrif ym Mhrydain gyda'r rhan gynharaf o'r adeilad sydd wedi goroesi yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 1500au. Yn gartref i dirfeddianwyr cyfoethog teulu Morgan, gall ymwelwyr fynd ar daith o amgylch y tŷ a'r gerddi trawiadol a mwynhau rhaglen ddigwyddiadau helaeth.

Roedd Caerllion yn safle un o ddim ond tair Caer Lleng Rufeinig barhaol ym Mhrydain, ac mae llawer yn credu mai lleoliad Camlod y Brenin Arthur ydoedd, yr amffitheatr yn cael ei hystyried y Bwrdd Crwn. Gall ymwelwyr grwydro'r dref hanesyddol, y safleoedd archeolegol, Baddonau'r Gaer ac ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhedeg drwy'r ddinas a rhanbarth Gwent. Mae’r Pedwar Loc ar Ddeg yn cynnig golwg drawiadol wrth i'r lociau godi 160 troedfedd mewn dim ond hanner milltir. Yn y gamlas a'r ganolfan dreftadaeth, gall ymwelwyr olrhain twf a dirywiad y gamlas a'i rôl yn cludo nwyddau fel glo, haearn, calchfaen a briciau o gymoedd De Cymru i ddociau Casnewydd.

Mae Pont Gludo Casnewydd, adeiledd rhestredig Gradd I a grëwyd ym 1906 sy'n croesi Afon Wysg yn un o ddim ond chwech o ryfeddodau diwydiannol gweithredol sydd ar ôl yn y byd.  Mae'r bont wedi bod yn atyniad mawr ers iddi agor, pan dalodd 8,000 o bobl doll o geiniog i ddefnyddio’r groesfan. Mae'n atgof pwysig o rym peirianyddol Casnewydd ac mae ei hanes a'i maint yn ei gwneud yn atyniad hanfodol i ymwelwyr â'r ddinas.  Mae rhaglen adfer a gwella helaeth ar y gweill gan gynnwys canolfan ymwelwyr newydd.

Darganfuwyd Llong Ganoloesol Casnewydd ar lannau Afon Wysg ym mis Mehefin 2002 yn ystod y gwaith o adeiladu Theatr Glan yr Afon.

Cloddwyd y llong gan dîm o archaeolegwyr a'i chodi o'r gwaelod ddarn wrth ddarn ac mae tîm o arbenigwyr yn cofnodi ac yn gwarchod pob un o'r 2,000 o brennau llong a'r arteffactau a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio.

Mae cynlluniau i arddangos y llong yn cael eu datblygu.

Mae atyniadau hanesyddol eraill yng Nghasnewydd yn cynnwys Castell Casnewydd ac Eglwys Gadeiriol Casnewydd.

Diwylliant a’r Celfyddydau

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi bod yn casglu tystiolaeth o hanes, diwylliant ac amgylchedd y ddinas ers 1888, a chanddi arddangosfeydd parhaol a theithiol trawiadol.  Mae'n un o'r sefydliadau hynaf o'i fath yng Nghymru.  

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn lleoliad amlswyddogaethol sy'n ceisio dod â chymaint o bobl â phosibl i gysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, boed fel gwylwyr neu gyfranogwyr. Mae'n gwneud hyn drwy raglen o berfformiadau, dangosiadau ffilm, arddangosfeydd, dosbarthiadau a gweithdai.

Mae gan Gasnewydd hefyd rwydwaith celfyddydau a diwylliant ffyniannus gan gynnwys Theatr Dolman, Tin Shed Co, Urban Circle a llawer mwy o bartneriaid.

Mae'r sîn gerddoriaeth yng Nghasnewydd wedi cael ei dogfennu a'i chanmol yn dda am feithrin bandiau, cantorion a lleoliadau cerddoriaeth enwog.

Mae'r rhai sy'n gysylltiedig â'r ddinas yn cynnwys Joe Strummer o The Clash, Feeder, The Darling Buds, yn ogystal â Skindred, a Goldie Lookin Chain.

Daeth Casnewydd yn fan poblogaidd ar gyfer roc amgen yn y 1990au, pan gafodd ei labelu fel 'y Seattle newydd' a'i chysylltu â bandiau fel 60 Ft. Dolls, Dub War, Novocaine a Flyscreen.

Mae'r awydd i hyrwyddo a meithrin sîn gerddoriaeth y ddinas yn sylweddol.

Dangoswch eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol #Casnewydd25