Banner image

Telerau ac Amodau

Nod Cyngor Dinas Casnewydd a’n partneriaid yw cadw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ond ni allwn gymryd cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod sydd yn deillio o ganlyniad i ddefnyddi’r wybodaeth.

Gwaherddir ail-greu’r deunydd hwn mewn unrhyw fodd heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor.

Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i gynnwys y wefan hon.

Gallai awduron unigol gadw hawliau eiddo deallusol rhannau o’r deunydd hwn.

Nid oes unrhyw beth o ran y cytundeb hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol. 

Ymwadiad e-bost

Mae dolen i’r ymwadiad hwn yn cael ei chynnwys yn awtomatig ym mhob e-bost a anfonir yn allanol gan Gyngor Dinas Casnewydd a’i gyflogeion.

  • Mae’r e-bost hwn yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer y derbynnydd yn unig a gallai fod yn gyfrinachol, yn destun braint gyfreithiol neu broffesiynol, neu fel arall fod wedi’i diogelu rhag cael ei datgelu. Mae’r trosglwyddiad hwn ar gyfer y derbynnydd/derbynwyr a enwir yn unig a gallai gynnwys deunydd sensitif neu â marc diogelu arno hyd at CYFYNGEDIG a dylid ei drin yn unol â hynny. Oni bai mai chi yw’r derbynnydd a enwir (neu berson wedi’i awdurdodi i’w dderbyn ar ran y derbynnydd) ni chewch ei gopïo na’i ddefnyddio, na’i ddatgelu i unrhyw un arall. Os ydych wedi derbyn y trosglwyddiad hwn mewn camgymeriad, rhowch wybod i’r anfonwr yn syth. Eiddo Cyngor Dinas Casnewydd yw’r e-bost hwn ac unrhyw ffeil atodedig. Nid yw unrhyw farn yn y post hwn yn adlewyrchu barn Cyngor Dinas Casnewydd o reidrwydd.
  • Ni fydd unrhyw beth yn yr e-bost hwn yn cychwyn perthynas contract gyda’r Cyngor, ei asiantau neu’i gyflogeion oni bai y nodir fel arall neu fod swyddog awdurdodedig yn cadarnhau hyn ysgrifenedig.
  • Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw e-byst sy’n cael eu hanfon yn cynnwys meddalwedd maleisus. Ni all e-byst byth fod yn 100% ddiogel a’ch cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriadau ar gyfer firysau neu unrhyw wiriadau eraill rydych yn teimlo sydd yn briodol.
  • Pan e-bostiwch Gyngor Dinas Casnewydd, rydych yn caniatáu i’r Cyngor fonitro a darllen unrhyw e-byst o’r fath at ddibenion diogelwch a chydymffurfiaeth ddeddfwriaethol.
Gwybodaeth/dolenni trydydd parti

Nid yw’r Cyngor yn rheoli nac yn gwarantu perthnasedd, prydlondeb neu gywirdeb gwybodaeth a roddir gan asiantaethau, sefydliadau neu unigolion eraill ac nid yw’n cymeradwyo unrhyw farn, cynhyrchion neu wasanaethau a allai gael eu cynnwys chwaith.

Diogelu Data

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi’i gofrestru’n rheolydd rheoli data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n ein galluogi i gadw a phrosesu data.

Byddwn ond yn defnyddio gwybodaeth o’r fath yn unol â darpariaethau’r GDPR a Deddf Diogelu Data 2018.

Materion ynghylch firysau

Mae’r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i wirio am firysau mewn ffeiliau sydd ar gael i’w lawrlwytho ar y wefan hon. Ni all y Cyngor gymryd cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio deunydd wedi’i lawrlwytho. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn ail-wirio’r holl ddeunydd wedi’i lawrlwytho gyda’u meddalwedd gwirio am firysau eu hunain.