Eiddo Masnachol
- Rydym yn darparu cronfa ddata gynhwysfawr o adeiladau diwydiannol, eiddo swyddfa a safleoedd manwerthu ar gais a gellir trefnu mynd i weld eiddo preifat ac adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor.
- Mae prisiau tir a rhenti swyddfa a diwydiannol yn gystadleuol iawn yng Nghasnewydd, gan fod y ddinas yn agos iawn at goridor yr M4.
- Mae’r rhenti uchaf yng Nghasnewydd ar gyfer gofodau swyddfa a diwydiannol yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Caerdydd, Bryste a Llundain.
- Mae datblygiadau newydd yn digwydd ger yr M4 ac o amgylch canol y ddinas fel rhan o gynllun adfywio'r ddinas.
- Mae gan Gasnewydd ystod eang o barciau busnes a gwyddoniaeth, ystadau diwydiannol a safleoedd eraill ar gael i'w datblygu.
- Gyda'u gwybodaeth fanwl am farchnad eiddo masnachol Casnewydd, bydd ein cynghorwyr medrus yn eich helpu i ddod o hyd i'r adeilad mwyaf addas ar gyfer eich busnes.
Parciau Busnes
Mae parciau busnes o'r safon uchaf mewn lleoliadau gwych:
Sectorau
Mae gan Gasnewydd:
- clwstwr sefydledig o fusnesau technoleg
- sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol sy’n tyfu
- cysylltiadau trafnidiaeth gwych ar gyfer gweithrediadau dosbarthu a logisteg
- diwydiant gweithgynhyrchu sy’n mynd o nerth i nerth
E-bostiwch business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes