Mae gan Gasnewydd chwe chyffordd ar draffordd yr M4 (y brif ffordd o’r dwyrain tua’r gorllewin rhwng Llundain a De Cymru), sy’n galluogi mynediad hawdd i’r rhwydwaith traffyrdd o unrhyw le yn y ddinas
Diolch i gysylltiadau rheilffordd cyflymder uchel rhwng dinasoedd, dydy Llundain ond 90 munud i ffwrdd ar y trên. Bydd trydaneiddio prif lein de Cymru yn lleihau amserau teithio ymhellach fyth.
Mae meysydd awyr gerllaw yn cynnig gwasanaethau rheolaidd uniongyrchol i leoedd yn y DU a’r cyfandir ac mae ein porthladd dŵr dwfn yn gallu darparu ar gyfer llongau o hyd at 40,000 o dunelli.
Mae Casnewydd hefyd yn gwireddu ei huchelgais o ddod yn hyb digidol cenedlaethol drwy fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn ei chysylltiadau band eang a digidol.
Browser does not support script.