Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)
Awyr
• Mae meysydd awyr gerllaw – Caerdydd a Bryste Rhyngwladol – yn cynnig gwasanaethau rheolaidd uniongyrchol I leoedd yn y DU a’r cyfandir. Mae teithiau hedfan dros yr Iwerydd hefyd ar gael.
• Cysylltiadau meysydd awyr o Gasnewydd: Maes awyr Caerdydd 35 munud, maes awyr Bryste 45 munud, maes awyr Heathrow 2 awr, maes awyr Birmingham 2 awr.
Môr
• Mae porthladd dŵr dwfn Casnewydd yn gallu darparu ar gyfer llongau hyd at 40,000 o dunelli.
Mae Casnewydd yn trin tua £1 biliwn o fasnach y DU bob blwyddyn, gyda chryfder ar hyn o bryd mewn dur, metelau a deunydd adeiladu.
Mae Ystadegau Blynyddol Cludo Nwyddau Porthladdoedd y DU ar gyfer 2022 yn dangos bod Porthladd Casnewydd wedi cynnal ei safle fel y porthladd dur blaenllaw, yng Nghymru a'r DU, am y seithfed flwyddyn yn olynol.