banner image

Cyngor cyffredinol

General Advice Square 400

Cyngor cyffredinol

Rydym yn darparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim cyn, yn ystod ac ar ôl i fusnes benderfynu sefydlu ei hun yng Nghasnewydd. Rydym yn cynnig dull cydlynol 'un stop' sy'n ymwneud â sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

Bydd cynghorwyr medrus yn helpu i ddod o hyd i adeiladau addas, eich tywys trwy reoliadau cysylltiedig â'r cyngor, rhoi cymorth ynghylch cael gafael ar gymorth ariannol, a helpu i gael gafael ar gyngor arbenigol gan asiantaethau partner. 

Gallwn roi busnesau mewn cysylltiad ag eraill sydd eisoes wedi llwyddo i symud a chynghori ar gyfleoedd i rwydweithio busnes.

Ebostiwch business.services@newport.gov.ukneu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes.

 

Eiddo gwag canol y ddinas 

Efallai eich bod wedi sylwi bod rhai eiddo gwag yng Nghanol y Ddinas wedi cael eu gweddnewid ychydig. Gan weithio gyda AGB Casnewydd Nawr, a gyda chyllid gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi defnyddio gwaith celf gan blant ysgolion lleol i greu dyluniadau ar gyfer prosiect gwisgo siop. Mae'r dyluniadau, sydd â themâu Casnewydd gyda'r lluniau i blant wedi'u hymgorffori ynddynt, wedi'u gosod mewn siopau gwag drwy ganol y ddinas.  Mae'n rhan o ymgyrch y Cyngor i wneud Canol y Ddinas yn lle mwy deniadol i ymweld â hi, byw a gweithio, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl i edrych eto ar y gofodau hyn ac ystyried defnyddiau newydd i rai o'r unedau. 

Os oes gennych gwestiynau ynghylch unrhyw un o'r eiddo, cysylltwch â'r asiantau/datblygwyr a nodir ar y gwaith celf, neu cysylltwch â Thîm Datblygu Economaidd Cyngor Dinas Casnewydd yn business.services@newport.gov.uk    

 

 

General Advice Square 400