Ystadegau’r gweithlu
- Gall Casnewydd fanteisio ar bron hanner miliwn o bobl sy’n economaidd weithgar o fewn taith yrru 30 munud ac 1.6 miliwn o bobl mewn taith yrru awr.
- Mae gan weithlu Casnewydd hanes llwyddiannus o hyblygrwydd, ffyddlondeb ac ymroddiad. Mae cyflogau ymhlith y mwyaf cystadleuol yn y DU ac mae’r gyfradd cadw staff yn uwch na chyfartaledd y DU.
- Mae arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys TGCh a digidol, deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, diwydiannau creadigol, trafnidiaeth a logisteg a gwasanaethau cyhoeddus.
- Mae 97% o bobl ifanc Casnewydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
- Mae costau swyddfeydd a chyflogau 40% yn is na Llundain
- Mae’r gyfradd cadw staff yng Nghasnewydd yn uwch na chyfartaledd y DU
- Mae sefydliadau’r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghasnewydd yn ymrwymedig i helpu cyflogwyr i fodloni eu hanghenion recriwtio a sgiliau.
Addysg, sgiliau a hyfforddiant
Prifysgolion
Mae gan Gasnewydd gampws prifysgol arobryn yng nghanol ddinas - sy’n rhan o Brifysgol De Cymru. Un o gryfderau mawr Prifysgol De Cymru yw rhoi addysg sy’n berthnasol i ddiwydiant ac ymchwil sy’n berthnasol i fywyd pob dydd.
Mae prifysgolion uchel eu parch eraill o fewn 30 milltir i Gasnewydd, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Mae Casnewydd yn gwireddu ei huchelgais i fod yn hyb digidol cenedlaethol gan ddarparu addysg ac ymchwil sy’n berthnasol i’r byd diwydiant. Rydym yn gartref i’r canlynol:
- Academi Seiber-Ddiogelwch Genedlaethol, y gyntaf o’i math yng Nghymru, ar gampws dinas Casnewydd Prifysgol De Cymru. Menter sector cyhoeddus/preifat ar y cyd â chwmnïau diwydiannol megis Airbus, General Dynamics UK, Wolfberry a Chlwstwr Seiber-Ddiogelwch De Cymru yw hon.
- Mae TESTIA (un o gwmnïau Airbus) yma’n hyfforddi peirianwyr tra medrus ar gyfer y diwydiant awyrofod.
- Mae Sefydliad Alacrity y DU yn cynnig amgylchedd hyfforddiant dwys i baratoi graddedigion ar gyfer entrepreneuriaeth yn y sector technoleg.
Arall
- Mae Coleg Gwent yn un o golegau addysg bellach Cymru sydd â’r perfformiad gorau gyda champws yng Nghasnewydd sy’n cynnig cymwysterau galwedigaethol a phrif ffrwd.
- Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfrifol am nodi sectorau twf a’r galw am sgiliau ar draws y rhanbarth.