Mae Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles CAF wedi buddsoddi £30m mewn ffatri newydd ym Mharc Busnes Celtic yng Nghasnewydd, gan greu hyd at 300 o swyddi newydd. Bydd y ffatri 46,000 metr sgwâr gerllaw’r orsaf drenau a’r cyfleuster parcio a theithio newydd arfaethedig yn Llanwern. Mae’r gwaith o adeiladu’r ffatri ym Mharc Busnes Celtic wedi’i gwblhau, mae cynhyrchu trenau wedi dechrau a chafodd y trên cyntaf ei gwblhau yn haf 2019.
Bydd y ffatri hon yn cynhyrchu trenau cyflym iawn, trenau disel a thrydan a thramiau ysgafn a gaiff eu cyflenwi i weithredwyr ledled y DU.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan CAF